Ein Gwasanaethau Priodas

Read this page in English

Mae Diwrnod Perffaith yma i’ch cynorthwyo gyda chymaint neu gyn lleied ag y byddwch yn dymuno cael cymorth gydag ef.  Rydym yn cynnig sesiwn ymgynghori am ddim i bob pâr, er mwyn darganfod manylion y gwasanaeth yr ydych yn chwilio amdano.  Rydym yn ffyddiog y bydd un o’r pecynnau hyn yn apelio.

Ffoniwch ni am gymorth – £25 yr awr

Mae’n debygol y byddwch yn gweld bod amser yn mynd yn brin a bod gennych gannoedd o bethau i’w gwneud.  Gadewch i ni eich cynorthwyo wrth i chi gynllunio’ch priodas.  Gallai enghreifftiau o’r pecyn hwn gynnwys;  eich helpu i ddod o hyd i’r gwerthwr blodau perffaith, trefnu’r parti plu neu hyd yn oed reoli’r gwahoddiadau.

Cyfleus ar y diwrnod – o £250

Os ydych wedi trefnu popeth ac wedi archebu’r cyflenwyr, ond yn dymuno cael tawelwch meddwl ar y diwrnod, gadewch i ni gymryd y gofid hwnnw oddi ar eich ysgwyddau.
Byddwn:-

  • yn eich cyfarfod ychydig wythnosau cyn y briodas
  • yn penderfynu ar drefn y diwrnod
  • ar gael dros y ffôn yn gyson
  • yn cadarnhau’r niferoedd a fydd yn mynychu
  • yn cysylltu gyda’r holl gyflenwyr i gadarnhau’r hyn a archebwyd
  • yn mynd ar neges – casglu eitemau wrth gyflenwyr
  • yn cyfarfod gyda chyflenwyr ar y dydd i sicrhau eu bod yn cyrraedd mewn pryd ac yn paratoi yn gywir
  • Yn sicrhau bod y lleoliad wedi’i drefnu yn unol â’ch cais
  • Yn delio gyda’r annisgwyl
  • Yn rheoli unrhyw beth a allai godi yn ystod y diwrnod

Cynorthwy-ydd Personol – £450

Os bydd amser yn brin ac os byddwch yn ei chael hi’n anodd trefnu apwyntiadau ac archebu wrth gyflenwyr, gadewch i ni wneud hyn ar eich rhan.  Mae’r pecyn hwn yn cynnwys:-
Cyfarfod cychwynnol i ddeall eich syniadau a’ch cyllideb
Cyswllt rheolaidd a rhywun a fydd ar gael ac y bydd modd i chi eu ffonio yn gyson
Chwilio am leoliad a chyflenwyr
Gwneud apwyntiadau gyda chyflenwyr ar eich rhan
Anfon rhestr atoch o’ch holl apwyntiadau, dyddiadau, amseroedd, lleoliadau

Tawelwch Meddwl – O £600

Tawelwch meddwl llwyr i chi, o’ch cyfarfod ar y dechrau a thrafod syniadau, ac archebu cyflenwyr.  Ni fydd angen i chi wneud fawr iawn o waith fel pâr.  Byddwn yn archebu’r holl gyflenwyr, gan sicrhau bod popeth yn cael ei drefnu ar gyfer y diwrnod mawr.
Cyfarfod cychwynnol i ddeall eich syniadau a’ch cyllideb
Cyswllt rheolaidd a rhywun a fydd ar gael ac y bydd modd i chi eu ffonio yn gyson
Chwilio am leoliad a chyflenwyr
Rheoli gwahoddiadau a rhestr y gwesteion
Cyfarfodydd rheolaidd
Cytuno ar drefn y diwrnod
Cadarnhau’r rhifau ar gyfer y diwrnod
Cadarnhau archebiadau gyda chyflenwyr yn ystod y cyfnod cyn y briodas
Darparu amserlen, brîff a rhestr gyswllt ar gyfer cyflenwyr
Mynd ar neges – casglu pethau

Gwireddu Breuddwydion – O £850

Mae’r pecyn hwn yn gwireddu breuddwydion, byddwn yn gwneud popeth ar eich rhan, gan sicrhau y byddwch yn mwynhau pob munud o’r cyfnod cyn eich priodas, ac os nad yw hynny’n ddigon, byddwn yno gyda chi ar ddiwrnod eich priodas hyd yn oed, gan gyfarfod gyda chyflenwyr a sicrhau bod popeth yn mynd rhagddo yn ddiffwdan.  Byddwn yma bob cam o’r daith.  Mae’r pecyn yn cynnwys:-
Cyfarfod cychwynnol i ddeall eich syniadau a’ch cyllideb
Cyswllt rheolaidd a rhywun a fydd ar gael ac y bydd modd i chi eu ffonio yn gyson
Chwilio am leoliad a chyflenwyr
Rheoli gwahoddiadau a rhestr y gwesteion
Cyfarfodydd rheolaidd
Cytuno ar drefn y diwrnod
Cadarnhau’r rhifau ar gyfer y diwrnod
Cadarnhau archebiadau gyda chyflenwyr yn ystod y cyfnod cyn y briodas
Mynd ar neges – casglu pethau
Mynychu ar y diwrnod, o’r bore i’r adeg pan fydd yr adloniant ar gyfer y nos yn cyrraedd
Cyfarfod cyflenwyr ar y diwrnod
Sicrhau bod y lleoliad wedi’i baratoi yn ôl y gofyn
Delio gyda’r annisgwyl
Rheoli unrhyw beth a allai godi ar y diwrnod


Copyright

Diwrnod Perffaith 2010 All Rights Reserved