Priodasau
May 2010
ClosedRead this page in English
Diwrnod eich priodas fydd un o’r diwrnodau mwyaf pleserus o’ch bywyd, ac mae Diwrnod Perffaith yma i’ch helpu i drefnu priodas brydferth ac arbennig, a fydd yn crisialu ac yn adlewyrchu’ch personoliaeth chi fel pâr.
Os oeddech o’r farn mai rhywbeth i’r cyfoethogion a’r enwogion yw cynllunwyr priodasau, wel mae’n bryd i chi feddwl eto, gan ei fod yn wasanaeth ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno cael help llaw wrth iddynt drefnu’r diwrnod mawr, unrhyw un sy’n brysur a heb yr amser, neu rywun sy’n dymuno cael priodas heb straen a thawelwch meddwl y bydd eu priodas yn Berffaith. Gallwn arbed arian i chi hyd yn oed, o ganlyniad i’n cysylltiadau gyda chyflenwyr dibynadwy, a gallwn weithio o fewn unrhyw gyllideb. Beth bynnag fo maint eich priodas, byddwch yn cael yr un sylw, yr un ymroddiad a’r un gwasanaeth personol, felly gallwch ddisgwyl yr un safonau uchel iawn a’r canlyniadau gwych.
Mae Diwrnod Perffaith yn gweithio ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cynhyrchion lleol, gan ddefnyddio cyflenwyr dibynadwy yn unig. Mae Gorllewin Cymru yn cynnig ystod wych o leoliadau, bwyd, crefftau a dylunwyr o ansawdd, a llawer mwy. Byddwn yn eich cyflwyno i gyflenwyr a fydd yn adlewyrchu’ch personoliaeth, eich chwaeth a’ch arddull unigol chi.
Trowch at y dudalen ynghylch ein Pecynnau, er mwyn gweld pa wasanaethau y gallwn eu cynnig i chi ac os nad ydych yn siŵr am unrhyw rai ohonynt, mae croeso i chi gysylltu gyda ni i drafod eich anghenion unigol, a byddwn yn fwy na bodlon i’ch helpu.

Filed under: weddings and events co-ordinator

